Helo Cian ac Osian,
Rwy’n llawn edmygedd am yr hyn ‘ych chi’n trio ei gyflawni (ac wedi ei gyflawni yn barod) ac hefyd am gryfder Oshie ac Alaw a’ch teuluoedd. Rwy’n gweithio gyda mam Cian a dyna sut glywes i am Head to Heart. O’n i wedi bod yn ystyried trio cyflawni’r “Pembrokeshire Coastal Challenge 2011″ sy’n golygu rhedeg (neu gerdded neu chropian!) 3 marathon mewn 3 diwrnod ar hyd y llwybr arfordirol yn Sir Benfro. Nes i benderfynnu bod e’n hollol nuts ond ar ol meddwl yn bellach ‘wy wedi cofrestri ac mi fydda i’n ceisio codi arian noddiant ar gyfer Head to Heart. Gobeithio gai gyfle i gwrdd a chi a Oshie ac Alaw cyn y sialens fawr.
Hwyl, Ceri.
ON: Dwi’n gyn-ddisgybl Glantaf fy hunan (nes i adael yn 1991) felly wastad yn hapus i helpu unrhywun o’r hen ysgol os alla i.